Mae Marcroes yn un o'r prif fynedfeydd i Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gan roi mynediad i Drwyn yr As Fach. Dilynwch y lôn sy'n weindio ei ffordd o’r Horseshoe Inn, tafarn leol o’r 19eg canrif, heibio Eglwys y pentref a thrwy warchodfa natur pert, Cwm Marcross, i'r pentir ysblennydd.
Eglwys y Drindod Sanctaidd
Adeilad rhestredig Gradd 1 yw Eglwys y Drindod Sanctaidd. Mae’n enghraifft da o’r 12fed ganrif, gan gynnwys nifer o elfennau Normanaidd arbennig ac mae'r adeilad cyfan yn cadw olion y gwyngalch a oedd yn draddodiadol ar waliau eglwysi’r Fro.
Goleudy Trwyn yr As Fach
Mae’n anodd credu nawr, ond roedd dyfroedd y Môr Hafren arfer bod y rhai prysuraf y byd. Hwyliodd llong ar ôl llong o Mhorthladd Caerdydd, gan gario glo i wledyd ledled y byd. Cafodd llawer o longau eu colli yn yr ardal, gyda dim ond darn cul o môr diogel rhwng y sandbank hir a glannau creigiog peryglus. Yn 1831 collwyd 78 o forwyr ar ôl i long ager y Frolic suddo. Oherwydd y protest a ddilynodd cafodd Goleudai Trwyn yr As Fach eu adeiladu. Erbyn mis Medi y cyntaf, 1832, ar ôl dim ond 11 o fisoedd o waith adeiladu, roedd y gorsaf yn barod. Daeth y signal niwl yn hwyrach, yn 1906.
Mae'r golau o'r tyrau yn alinio i roi "golau blaenllaw" i ddangos y ffordd diogel trwy’r sianel. Yn ystod y 1920au, dadgomisiynwyd y twr isel ac erbyn y pumdegau tynnwyd y llusern. Roedd Yr As Fach yn goleudy â chriw olaf yng Nghymru, gyda’r ceidwad olaf yn gadael ym mis Awst 1998. Mae’r goleudy dal i fod yn gwbl weithredol.
Erbyn hun, mae gan y goleudy rhestredig gradd 2 Canolfan Ymwelwyr ac mae teithiau ar gael ar adegau penodol (gwiriwch amseroedd agor cyn teithio). Mae hyd yn oed yn darparu lleoliad priodas unigryw
Yn ôl chwedl leol, olion Carn Hir, sy’n cuddio o dan eithin ar ben y clogwyn, oedd y lle o addoliad yr hen bentref ac yn cael ei adnabod fel Yr Hen Eglwys.
Mae caer Oes yr Haearn nodedig ar ben y clogwyn yn un o nifer a oedd yn gwarchod yr arfordir rhag ysbeilwyr arfordirol.